2016 Rhif 80 (Cy. 37)

RHEOLI PERYGL LLIFOGYDD, Cymru

Rheoliadau Deddf Cronfeydd Dŵr 1975 (Capasiti, Cofrestru, Ffurflenni Rhagnodedig, etc.) (Cymru) 2016

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

At ddibenion Deddf Cronfeydd Dŵr 1975 (p.23) (“Deddf 1975”), mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer y canlynol —

(a)     sut i gyfrifo capasiti at ddibenion adran A1 o Ddeddf Cronfeydd Dŵr 1975 (rheoliad 3);

(b)     y wybodaeth am gyforgronfa ddŵr fawr sydd i'w chofrestru (rheoliad 4); hysbysiad o newidiadau i gofrestr Cymru yn ogystal â chadw ac arolygu'r gofrestr (rheoliad 5 a 6);

(c)     llunio adroddiadau gan Gorff Adnoddau Naturiol Cymru (“CANC”) i Weinidogion Cymru a chynnwys yr adroddiadau (rheoliad 7);

(d)     ffurf y cofnod y mae'n rhaid ei gadw ar gyfer cronfa ddŵr perygl uchel a’r wybodaeth y mae'n rhaid ei nodi yn y cofnod hwnnw (rheoliad 8);

(e)     ffurf y tystysgrifau peirianwyr (rheoliad 9); ffurf yr adroddiadau peirianwyr (rheoliad 10) a ffurf y cyfarwyddiadau peirianwyr) (rheoliad 11);

(f)      yr wybodaeth y mae'n rhaid i ymgymerwyr ei darparu pan yn bwriadu adeiladu cronfa ddŵr neu ail-ddechrau defnyddio cyforgronfa ddŵr fawr (rheoliad 12); a

(g)     llunio adroddiadau gan ymgymerwyr i CANC mewn perthynas â digwyddiadau cysylltiedig â rhyddhau dŵr heb reolaeth o gyforgronfa ddŵr fawr pan fo mesurau brys yn cael eu cymryd (rheoliad 13).

Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn dirymu Rheoliadau Deddf Cronfeydd Dŵr 1975 (Cofrestrau, Adroddiadau a Chofnodion) 1985 (O.S. 1985/177), Rheoliadau Deddf Cronfeydd Dŵr 1975 (Cofrestrau, Adroddiadau a Chofnodion) (Diwygio) 1985 (O.S. 1985/548) a Rheoliadau Deddf Cronfeydd Dŵr 1975 (Tystysgrifau, Adroddiadau a Gwybodaeth Ragnodedig) 1986 (O.S. 1986/468) (rheoliad 15). Disodlir y Rheoliadau hynny gan y darpariaethau yn rheoliadau 4, 6, 8 i 10 a 12.

Mae adran A1(4) o Ddeddf 1975 yn ei gwneud yn ofynnol i lunio rheoliadau ynglŷn â'r ffordd y dylid cyfrifo capasiti at ddiben sefydlu a yw adeiledd neu fan uwch yn fawr o dan adran A1(3) o Ddeddf 1975. Mae rheoliad 3 yn gwneud y ddarpariaeth hon.

O dan adran 2(2) o Ddeddf 1975 mae'n ofynnol i CANC gadw cofrestr sy'n cynnwys gwybodaeth ragnodedig ynglŷn â chyforgronfeydd mawr. Mae rheoliad 4 yn rhagnodi'r wybodaeth y dylai cofrestr Cymru ei chynnwys am gyforgronfeydd mawr.

Mae rheoliad 5 yn darparu bod yr ymgymerwr i CANC yn rhoi gwybod am unrhyw newidiadau neu newidiadau arfaethedig a wnaed neu y cynigir eu gwneud i'r wybodaeth y mae gofyn ei chadw ar gofrestr Cymru. Mae rheoliad 6 yn ei gwneud yn ofynnol bod cofrestr Cymru a chopïau ohoni yn cael eu cadw ym mhrif swyddfa CANC a bod CANC yn sicrhau bod gwybodaeth benodol y mae'n ofynnol iddi fod yng Nghofrestr Cymru ynddi.

Mae rheoliad 7 yn pennu amseriad yr adroddiadau y mae'n rhaid i'r CANC eu paratoi i Weinidogion Cymru o dan adran 3(1) o Ddeddf 1975; yr wybodaeth y mae'n rhaid ei chyflwyno yn yr adroddiadau hynny.

Mae rheoliad 8 yn rhagnodi'r ffurfy mae'n ofynnol i gofnod o dan adran 11(1) o Ddeddf 1975 gael ei gadw arni gan ymgymerwr cronfa ddŵr perygl uchel a'r materion y mae'n rhaid i ymgymerwyr cronfeydd dŵr perygl uchel gadw cofnod ohonynt yn ogystal â'r rhai a nodir yn adran 11(1)(a) a (b) o Ddeddf 1975.

Mae rheoliadau 9 i 11 yn rhagnodi, fel y darperir gan adran 20(1) o Ddeddf 1975, ffurf yr amrywiol dystysgrifau, cyfarwyddiadau ac adroddiadau pan fo Deddf 1975 yn gofyn bod tystysgrifau neu gyfarwyddiadau'n cael eu rhoi neu adroddiad yn cael ei baratoi gan beiriannydd sifil sy'n ymwneud â gwaith cysylltiedig â chyforgronfa ddŵr fawr.

Mae rheoliad 12 yn rhagnodi'r wybodaeth y mae'n rhaid ei chynnwys mewn hysbysiad o dan adran 21(1) o Ddeddf 1975 y mae'n ofynnol i ymgymerwr, sy'n bwriadu adeiladu cyforgronfa ddŵr fawr neu ail-ddechrau defnyddio cyforgronfa ddŵr fawr, ei gyflwyno i CANC.

Mae rheoliad 13 yn rhagnodi ffurf adroddiad y mae'n rhaid ei baratoi o dan adran 21B o'r Ddeddf, ac yn pennu’r digwyddiadau y dylid  gwneud adroddiad o'r fath mewn cysylltiad â hwy.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, paratowyd asesiad effaith rheoleiddiol o gostau a buddiannau tebygol cydymffurfio â'r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi gan Is-adran Ynni, Dŵr a Llifogydd Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

 

 


2016 Rhif 80 (Cy. 37)

RHEOLI PERYGL LLIFOGYDD, Cymru

Rheoliadau Deddf Cronfeydd Dŵr 1975 (Capasiti, Cofrestru, Ffurflenni Rhagnodedig, etc.) (Cymru) 2016

Gwnaed                                27 Ionawr 2016

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru       29 Ionawr 2016

Yn dod i rym                             1 Ebrill 2016

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau A1(4), 2(2) a (2C) i (2E), 3(1), 5, 11, 20(1), 21(1) a 21B o Ddeddf Cronfeydd Dŵr 1975([1]).

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Cronfeydd Dŵr 1975 (Capasiti, Cofrestru, Ffurflenni Rhagnodedig, etc.) (Cymru) 2016.

(2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2016.

(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.

Dehongli

2.(1) Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “adeiledd” (“structure”) yw argae, wal cronfa ddŵr neu arglawdd sy'n dal dŵr;

ystyr “CANC” (“the NRBW”) yw Corff Adnoddau Naturiol Cymru;

ystyr “cofrestr Cymru” (“Welsh register”) yw'r gofrestr y mae'n ofynnol i CANC ei sefydlu a'i chynnal o dan adran 2(2) o Ddeddf 1975;

ystyr “Deddf 1930” (“the 1930 Act”) yw Deddf Cronfeydd Dŵr (Darpariaethau Diogelwch) 1930 ([2]);

ystyr “Deddf 1975” (“Deddf 1975”) yw Deddf Cronfeydd Dŵr 1975;

“lefel naturiol” (“natural level”) yw lefel y tir naturiol sydd yn weddill ar ôl adeiladu neu ar ôl unrhyw addasiad i gyforgronfa ddŵr fawr;

mae “lefel naturiol isaf unrhyw ran o'r tir amgylchynol” (“lowest natural level of any part of the surrounding land”)yn cynnwys lefel isaf gwely unrhyw gwrs dŵr;

ystyr “lefel uchaf y dŵr” (“top water level”) yw—

(a)     yn achos cronfa ddŵr sydd â silff orlif sefydlog, lefel brig isaf y silff honno;

(b)     yn achos cronfa ddŵr, y gorlif a reolir yn llwyr neu'n rhannol gan giatiau symudol, seiffonau, neu mewn ffordd arall, y lefel uchaf y gellir storio dŵr heb gynnwys unrhyw ddarpariaeth ar gyfer storio llifogydd; neu

(c)     yn achos cronfa ddŵr a gynlluniwyd at ddibenion dal llifddwr yn ôl, lefel uchaf y llifddwr y gellir ei storio yn ystod unrhyw lifogydd heb gynnwys unrhyw ddarpariaeth ar gyfer gorlif.

ystyr “panel” (“panel”) yw panel o beirianwyr sifil a gyfansoddwyd o dan adran 4 o Ddeddf 1975([3]):

ystyr “tir amgylchynol” (“surrounding land”) yw tir cyfagos i gyforgronfa ddŵr fawr;

ystyr “troed” (“troed”) yw'r pwynt ar yr ochr i lawr yr afon o'r adeiledd sydd yn ffurfio rhan o'r gronfa ddŵr lle mae ei sylfaen yn cwrdd â lefel naturiol isaf unrhyw ran o'r tir o'i gwmpas.

(2) Yn y Rheoliadau hyn—

(a)     rhaid i unrhyw wybodaeth sy'n ofynnol neu hysbysiad a roddir fod yn ysgrifenedig;

(b)     mae cyfeiriad at unrhyw ddogfen neu wybodaeth yn cynnwys y ddogfen neu'r wybodaeth honno ar ffurf electronig;

(c)     bernir bod unrhyw ddogfen neu wybodaeth a gafodd ei chyfathrebu mewn dull electronig -

                           (i)    wedi ei hanfon pan fo modd i'r anfonwr gynhyrchu copi o'r cyfathrebiad electronig—

(aa)        a oedd yn cynnwys y ddogfen neu'r wybodaeth;

(bb)       sy'n dangos dyddiad ac amser anfon y neges; ac

(cc)        yn dangos bod y ddogfen wedi ei hanfon i'r derbynnydd;

                         (ii)    wedi ei hanfon gan y person yr honnir a'i hanfonodd; ac

                       (iii)    nas ymyrrwyd â hi na'i haddasu mewn unrhyw fodd arall;

(d)     gellir bodloni unrhyw gais am lofnod mewn adroddiad, tystysgrif neu gyfarwyddiadau y mae'r Rheoliadau hyn yn ymwneud â hwy gyda llofnod electronig a'i gynnwys yn y ddogfen;

(e)     ystyr “llofnod electronig” (“electronic signature”) yw data ar ffurf electronig sydd wedi ei atodi i ddata electronig arall neu ei gysylltu'n rhesymol â data electronig arall ac sy'n gweithredu fel dull dilysu.

Cyfrifo capasiti

3.(1) At ddibenion adran A1(3) o Ddeddf 1975 rhaid cyfrifo capasiti cyforgronfa ddŵr fawr drwy fesur y cyfaint mwyaf o ddŵr mewn metrau ciwbig y gellir ei storio—

(a)     uwchben gwely'r gronfa ddŵr; a

(b)     rhwng troed y gronfa ddŵr a lefel uchaf y dŵr

(2) Ni ddylid cynnwys dŵr sy'n is na lefel naturiol unrhyw ran o'r tir amgylchynol yn y cyfrifiad.

(3) Yn y rheoliad hwn mae “gwely'r gronfa ddŵr” (“bed of the reservoir”) yn cynnwys unrhyw silt neu ddeunydd arall y mae'r  peiriannydd sy'n rhoi'r dystysgrif derfynol, neu'n rhoi tystysgrif o dan adran 13(2) o Ddeddf 1975, yn barnu nad oes modd iddo lifo allan o'r gronfa ddŵr dros dir naturiol mewn achos lle caiff dŵr ei ryddhau heb reolaeth o'r gronfa ddŵr.

Gofynion cofrestru

4.(1) At ddiben adran 2(2C) o Ddeddf 1975 yr wybodaeth y mae'n rhaid i ymgymerwr cyforgronfa ddŵr fawr ei chofrestru gyda CANC yw'r wybodaeth a ragnodir yn Atodlen 1, paragraffau 1 i 7.

(2) Rhaid i'r wybodaeth a ragnodir yn Atodlen 1 gael ei chofrestru—

(a)     cyn diwedd y cyfnod o 28 diwrnod sy'n cychwyn gyda dyddiad cyflwyno tystysgrif derfynol a roddir yn unol ag adran 7 o Ddeddf 1975([4]) mewn perthynas ag—

                           (i)    adeiladu cronfa ddŵr newydd;

                         (ii)    addasu adeiledd neu fan presennol nad oedd yn gyforgronfa ddŵr fawr cyn yr addasiad; neu

                       (iii)    addasu rhan o gronfa ddŵr nad oedd yn gyforgronfa ddŵr fawr cyn ei haddasu;

(b)     o fewn 6 mis i gofrestru o dan adran 2(2C) o Ddeddf 1975,

pa bynnag un sy'n digwydd gyntaf. 

Hysbysiad o newidiadau i gofrestr Cymru

5.(1) Pan fo newid neu ychwanegiad wedi ei wneud i unrhyw ran o'r wybodaeth a gofrestrir yn unol â rheoliad 4, rhaid i'r ymgymerwr roi gwybodaeth ddiweddar berthnasol i CANC o fewn 28 diwrnod i ddyddiad y newid neu'r ychwanegiad.

(2) Gall CANC ofyn am gadarnhad o’r ymgymerwr bod unrhyw wybodaeth neu’r holl wybodaeth a roddwyd gan yr ymgymerwr hwnnw at ddibenion cofrestr Cymru yn gyfoes neu’n gyflawn.

(3) Pan fo paragraff (2) yn berthnasol, heb ragfarn i baragraffau (4), (6) ac (8), rhaid i'r ymgymerwr, o fewn 28 diwrnod yn dechrau o'r diwrnod y mae CANC yn gofyn am gadarnhad o'r fath—

(a)     cadarnhau bod yr wybodaeth berthnasol wedi ei diweddaru neu, pan fo unrhyw ran o'r wybodaeth honno ddim wedi ei diweddaru, ddarparu'r wybodaeth ddiweddaraf; a

(b)     pan fo unrhyw ran o'r wybodaeth yn anghyflawn neu ar goll, ddarparu'r wybodaeth gyflawn neu'r wybodaeth sydd ar goll.

(4) Pan gynigir gwneud addasiad sy'n cynyddu neu'n lleihau capasiti cyforgronfa ddŵr fawr, rhaid i'r ymgymerwr hysbysu CANC ddim llai na 28 diwrnod cyn dechrau'r gwaith addasu.

(5) Rhaid i hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (4) gynnwys y wybodaeth ganlynol—

(a)     dyddiad arfaethedig dechrau ar yr addasiad;

(b)     disgrifiad o natur a graddau y gwaith arfaethedig i’r gyforgronfa ddŵr fawr.

(6) Pan gynigir rhoi'r gorau i ddefnyddio cyforgronfa ddŵr fawr o dan adran 14 o Ddeddf 1975([5]), rhaid i'r ymgymerwr hysbysu CANC ddim llai na 28 diwrnod cyn gweithredu ar y cynnig i roi'r gorau i'w defnyddio.

(7) Rhaid i hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (6) gynnwys dyddiad arfaethedig rhoi'r gorau i ddefnyddio'r gyforgronfa ddŵr fawr.

(8) Pan fo peiriannydd adeiladu, goruchwylio neu arolygu'n cael ei benodi at ddibenion Deddf 1975, rhaid i'r ymgymerwr hysbysu CANC o ddyddiad y penodiad o fewn 28 diwrnod.

(9) Rhaid i'r ymgymerwr hysbysu CANC o fewn 28 diwrnod o'r dyddiad y mae peiriannydd yn

(a)     peidio â bod yn beiriannydd adeiladu cyn i'r peiriannydd hwnnw gyflwyno tystysgrif derfynol;

(b)     peidio â bod yn beiriannydd arolygu neu oruchwylio.

(10) Rhaid i ymgymerwr sy'n bwriadu rhoi'r gorau i fod yn ymgymerwr roi'r wybodaeth a ganlyn i CANC—

(a)     y dyddiad y mae'r ymgymerwr yn bwriadu rhoi'r gorau i swyddogaeth yr ymgymerwr;

(b)     enw a chyfeiriad yr unigolyn y bwriedir iddo fod yr ymgymerwr newydd;

(c)     y dyddiad y bwriedir i'r unigolyn hwnnw fod yr  ymgymerwr newydd.

Cadw ac arolygu cofrestr Cymru

6.(1) Rhaid i gofrestr Cymru gael ei chadw ym mhrif swyddfa CANC([6]).

(2) Rhaid i CANC gofnodi'r wybodaeth a ragnodir yn Atodlen 1, paragraffau 8 i 10 yng nghofrestr Cymru.

Adroddiadau gan CANC i Weinidogion Cymru

7.(1) At ddibenion adran 3(1) o Ddeddf 1975, rhaid i CANC adrodd i Weinidogion Cymru –

(a)     yn ddim hwyrach na 30 Medi 2017 mewn perthynas â'r cyfnod1 Ebrill 2016 i 31 Mawrth 2017; a

(b)     bob dwy flynedd wedi hynny.

(2) Rhaid i CANC gyflwyno’r adroddiad i Weinidogion Cymru yn ddim hwyrach na 6 mis ar ôl diwedd y cyfnod adrodd.

(3) Rhaid i'r adroddiad gadarnhau—

(a)     nifer y cyforgronfeydd dŵr mawr sydd wedi eu cofrestru;

(b)     y camau y mae CANC wedi eu cymryd (os cymerwyd unrhyw gamau o gwbl) i sicrhau bod ymgymerwyr cyforgronfa ddŵr fawr wedi cydymffurfio â gofynion Deddf 1975; ac

(c)     os mai CANC ei hun yw'r ymgymerwr ar gyfer unrhyw gyforgronfa ddŵr fawr, datganiad ynghylch—

                           (i)    nifer y cyforgronfeydd dŵr mawr y mae'n ymgymerwr iddynt; a

                         (ii)    unrhyw gamau y mae wedi ei gymryd i arsylwi a chydymffurfio â gofynion Deddf 1975.

Cofnodion o lefelau'r dŵr etc.

8. Er mwyn ymgymryd ag adran 11(1) o Ddeddf 1975, rhaid i ymgymerwr cyforgronfa ddŵr fawr perygl uchel –

(a)     cadw cofnod ar y ffurf a ragnodir yn Atodlen 2: a

(b)     cofnodi’r materion a ragnodir yn Atodlen 3.

Ffurf tystysgrifau peirianwyr

9. At ddibenion adran 20(1) o Ddeddf 1975, rhaid i'r tystysgrifau canlynol fod yn y ffurf a ragnodir yn Atodlen 4—

(a)     tystysgrif ragarweiniol a roddir o dan adran 7(1) o Ddeddf 1975;

(b)     tystysgrif interim a roddir o dan adran 7(2) o Ddeddf 1975;

(c)     tystysgrif derfynol a roddir o dan adran 7(3) o Ddeddf 1975;

(d)     tystysgrif gweithredu'r gwaith yn effeithiol a roddir o dan adran 7(6) neu 8(7) o Ddeddf 1975([7]);

(e)     tystysgrif a roddir o dan adran 10(5) o Ddeddf 1975([8]) ynghylch adroddiad peiriannydd arolygu;

(f)      tystysgrif a roddir o dan adran 10(6) o Ddeddf 1975 ynghylch gweithredu ar argymhellion diogelwch;

(g)     tystysgrif a roddir o dan adran 12AA(3) o Ddeddf 1975([9]) ynghylch bodloni gofynion cyfarwyddyd i baratoi cynllun llifogydd;

(h)     tystysgrif interim a roddir o dan adran 13(1A) o Ddeddf 1975;

(i)      tystysgrif a roddir o dan adran 13(2) o Ddeddf 1975 ynghylch cwblhad a gweithrediad effeithlon addasiad er mwyn rhoi'r gorau i ddefnyddio cyforgronfa ddŵr fawr;

(j)      tystysgrif a roddir o dan adran 14(3) o Ddeddf 1975 ynghylch adroddiad peiriannydd;

(k)     tystysgrif a roddir o dan adran 15(2) o Ddeddf 1975([10]) ynghylch gweithredu ar argymhellion diogelwch; neu

(l)      tystysgrif canolwr a roddir o dan adran 19(4) o Ddeddf 1975([11]).

Ffurf adroddiadau peirianwyr

10. At ddibenion adran 20(1) o Ddeddf 1975, rhaid i'r adroddiadau canlynol fod yn y ffurf a ragnodir yn Atodlen 5—

(a)     adroddiad peiriannydd o dan adran 8(2) o Ddeddf 1975 a wnaed ar adeiladu neu addasu cyforgronfa ddŵr fawr;

(b)     adroddiad peiriannydd o dan adran 9(1) o Ddeddf 1975 a wnaed cyn ail-ddefnyddio cyforgronfa ddŵr fawr a adawyd;

(c)     adroddiad o dan adran 10(1) o Ddeddf 1975 a wnaed ar ôl arolygiad peiriannydd o gyforgronfa ddŵr fawr perygl uchel;

(d)     adroddiad peiriannydd o dan adran 14(1) o Ddeddf 1975 ynghylch camau y dylid eu cymryd mewn perthynas â gadael cyforgronfa ddŵr fawr.

Ffurf cyfarwyddiadau peirianwyr

11. At ddibenion adran 20(1) o Ddeddf 1975, rhaid i'r cyfarwyddiadau canlynol fod yn y ffurf a ragnodir yn Atodlen 6—

(a)     cyfarwyddyd a wneir o dan adran 11(2) o Ddeddf 1975 (cofnodi lefelau dŵr etc.);

(b)     cyfarwyddyd a wneir o dan adran 12(6) o Ddeddf 1975([12]) (goruchwylio cronfeydd dŵr: arolygiad gweledol gan yr ymgymerwr);

(c)     cyfarwyddyd a wneir o dan adran 12AA(4) o Ddeddf 1975 (cynlluniau llifogydd: profi);

(d)     cyfarwyddyd a wneir o dan adran 12AA(7) o Ddeddf 1975 (cynlluniau llifogydd; diwygiad); neu

(e)     cyfarwyddyd a wneir o dan adran 19(4A) o Ddeddf 1975 (cyfeirio argymhellion sy'n destun dadl at ganolwr: cyfarwyddyd i beiriannydd i gyflwyno tystysgrif).

Gwybodaeth ragnodedig o dan adran 21(1) o Ddeddf 1975 i gael ei darparu gan ymgymerwyr wrth fwriadu adeiladu cyforgronfa ddŵr fawr neu ail-ddechrau defnyddio cyforgronfa ddŵr fawr

12. Yr wybodaeth y mae'n rhaid ei rhoi mewn hysbysiad a gyflwynir gan ymgymerwr  i CANC o dan adran 21(1) o Ddeddf 1975 yw'r wybodaeth a ragnodir yn Atodlen 7.

Adroddiadau i CANC

13.(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw ddigwyddiad—

(a)     sy'n arwain at, neu a allai arwain at, ryddhau dŵr heb reolaeth o gyforgronfa ddŵr fawr; a

(b)     y mae camau brys wedi eu cymryd mewn perthynas ag ef er mwyn atal rhyddhau unrhyw ddŵr neu ddŵr pellach heb reolaeth o gyforgronfa ddŵr fawr ac i leihau'r perygl i fywyd dynol.

(2) Pan fo'r rheoliad hwn yn gymwys, rhaid i'r ymgymerwr anfon y canlynol at CANC—

(a)     adroddiad rhagarweiniol o'r digwyddiad cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl dechrau ar y mesurau brys; a

(b)     adroddiad terfynol o'r digwyddiad o fewn un flwyddyn, gan ddechrau gyda'r diwrnod ar ôl y diwrnod y dechreuodd y mesurau brys.

(3) Rhaid i'r adroddiad rhagarweiniol gynnwys digon o fanylion i alluogi CANC i ganfod dyddiad ac amser y digwyddiad, lleoliad y gronfa ddŵr a chadarnhau'r ffeithiau sy'n weladwy ar unwaith.

(4) Rhaid i'r adroddiad terfynol o'r digwyddiad y cyfeirir ato ym mharagraff (2)(b) gynnwys—

(a)     y ffeithiau am y digwyddiad;

(b)     dadansoddiad o'i amgylchiadau;

(c)     casgliadau y gellir dod iddynt o'r dadansoddiad hwnnw gyda rhesymau dros y casgliadau;

(d)     cadarnhad o ba gamau a argymhellir ar gyfer osgoi ailadrodd y digwyddiad. 

(5) Caiff CANC roi cyfarwyddyd i ymgymerwr ddiwygio'r adroddiad terfynol ond mae'n rhaid iddo

(a)     egluro'r rheswm bod angen pob diwygiad; a

(b)     pennu’r cyfnod o ddim llai na thri mis y mae'n rhaid i'r ymgymerwr wneud y diwygiadau oddi mewn iddo.

(6) Nid yw diwygiadau i'r adroddiad terfynol yn effeithiol oni bai—

(a)     bod yr ymgymerwr wedi anfon fersiwn o'r adroddiad at CANC sy'n cynnwys y diwygiadau a hysbyswyd gan CANC, a

(b)     bod CANC wedi derbyn y diwygiadau.

Dirymiadau

14. Dirymir y Rheoliadau canlynol—

(a)     Rheoliadau Deddf Cronfeydd Dŵr 1975 (Cofrestrau, Adroddiadau a Chofnodion) 1985([13]);

(b)     Rheoliadau Deddf Cronfeydd Dŵr 1975 (Cofrestrau, Adroddiadau a Chofnodion) (Diwygio) 1985([14]);

(c)     Rheoliadau Deddf Cronfeydd Dŵr 1975 (Tystysgrifau, Adroddiadau a Gwybodaeth Ragnodedig) 1986([15]).

 

 

 

Carl Sargeant,

Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, un o Weinidogion Cymru

27 Ionawr 2016

                    ATODLEN 1 Rheoliadau 4 a 6

Gwybodaeth y mae'n rhaid ei rhoi yng nghofrestrau cyforgronfeydd dŵr mawr Cymru

1. Enw a safle'r gronfa ddŵr.

2. Cyfeirnod grid cenedlaethol y gronfa ddŵr.

3. Enw a chyfeiriad pob ymgymerwr sydd yn gyfrifol am y gronfa ddŵr.

4. Crynodeb o gynnwys pob tystysgrif neu adroddiad a wnaed o dan Ddeddf 1975, neu Ddeddf 1930, gan gynnwys—

(a)     enw a chyfeiriad y peiriannydd sy'n rhoi'r dystysgrif neu'n gwneud yr adroddiad;

(b)     yr adran o ba bynnag Ddeddf y rhoddir y dystysgrif neu y gwneir yr adroddiad oddi tani;

(c)     pan nad yw tystysgrif derfynol wedi ei rhoi o dan Ddeddf 1975, datganiad o'r ffaith honno;

(d)     pan nad yw tystysgrif derfynol wedi ei rhoi o dan Ddeddf 1930 am fod gwaith adeiladu neu addasu'r gronfa ddŵr wedi ei gwblhau cyn dechrau'r Ddeddf honno, datganiad o'r ffaith honno.

5. Yr wybodaeth ganlynol os caiff ei datgelu gan unrhyw dystysgrif, adroddiad neu ddatganiad—

(a)     categori'r gronfa ddŵr (cronfa sy'n cronni neu gronfa nad yw'n cronni);

(b)     y flwyddyn/blynyddoedd y cafodd argae/argaeau, waliau neu argloddiau'r gronfa ddŵr eu cwblhau;

(c)     adeiladwaith yr argae/argaeau, waliau'r gronfa ddŵr neu arglawdd/argloddiau (h.y. boed wedi ei adeiladu o bridd, cerrig, disgyrchiant,  bwtres neu ddull arall);

(d)     lefel uchaf yr argae/argaeau, waliau neu arglawdd/argloddiau'r gronfa ddŵr gan gyfeirio at Ddatwm Ordnans;

(e)     lefel uchaf dŵr y gronfa ddŵr gan gyfeirio at Ddatwm Ordnans;

(f)      uchder mwyaf yr argae/argaeau, waliau neu arglawdd/argloddiau'r gronfa  ddŵr wedi ei fesur mewn metrau o lefel naturiol isaf y tir amgylchynol, i frig yr argae/argaeau, waliau neu argloddiau'r gronfa ddŵr, ac eithrio uchder y wal donnau;

(g)     capasiti'r gronfa ddŵr;

(h)     arwynebedd dŵr y gronfa ddŵr ar lefel uchaf y dŵr (mewn metrau sgwâr neu gilometrau sgwâr).

6. Enw a chyfeiriad busnes y peiriannydd goruchwylio neu, os yw'r gronfa ddŵr o dan oruchwyliaeth y peiriannydd adeiladu, enw a chyfeiriad busnes y peiriannydd hwnnw.

7. Dyddiad cynnal yr arolygiad nesaf o dan Ddeddf 1975 neu unrhyw ddyddiad yr argymhellir y dylid cynnal yr arolygiad nesaf o dan Ddeddf 1975 gan y peiriannydd goruchwylio neu arolygu.

8. Manylion unrhyw benodiad a wnaed gan CANC o dan adran 15 o Ddeddf 1975.

9. Manylion unrhyw benodiad a wnaed gan CANC o dan adran 16 o Ddeddf 1975, gan gynnwys y dyddiad y cofnodwyd y manylion.

10.Pa un a ddynodir y gyforgronfa ddŵr fawr yn un â pherygl uchel.


                                          ATODLEN 2                            Rheoliad 8

Ffurflen ragnodedig cofnod ar gyfer cronfa ddŵr perygl uchel

Yn y Ffurflen hon

·         ystyr “Deddf 1930” yw Ddeddf Cronfeydd Dŵr (Darpariaethau Diogelwch) 1930;

·         ystyr “Deddf 1975” yw Deddf Cronfeydd Dŵr 1975;

·         ystyr “cyrhaeddiad” yw hyd effeithiol y gronfa ddŵr y gall tonnau gael eu creu ar ei hyd gan wynt;

·         ystyr “lefel uchaf y dŵr” yw—

(a)   yn achos cronfa ddŵr sydd â silff orlif sefydlog, lefel brig isaf y silff honno;

(b)   yn achos cronfa ddŵr, y gorlif a reolir yn llwyr neu'n rhannol gan giatiau symudol, seiffonau neu mewn ffordd arall, y lefel uchaf y gellir storio dŵr gan gynnwys unrhyw ddarpariaeth ar gyfer storio llifogydd;

(c)   yn achos cronfa ddŵr a gynlluniwyd at ddibenion dal llifddwr yn ôl, lefel uchaf y llifddwr y gellir ei storio yn ystod unrhyw lifogydd heb gynnwys unrhyw ddarpariaeth ar gyfer gorlif yn achos cronfa ddŵr.

·         Rhaid cyflwyno gwybodaeth yn y modd ac ar yr adeg y cyfarwyddir gan y peiriannydd adeiladu neu arolygu.

·         Os oes unrhyw eitem o wybodaeth nad yw'n gymwys i'r gronfa ddŵr, dylid datgan hyn a rhoi'r rhesymau.

·         Ceir defnyddio unrhyw luniadau perthnasol i ategu gwybodaeth.

 

 

Enw a safle'r gronfa ddŵr sy'n eiddo i chi

 

 

 

Cyfeirnod Grid Cenedlaethol y gronfa ddŵr

 

 

 

 

Perchnogion y gronfa ddŵr

 

Enw

 

 

Cyfeiriad

 

 

 

Y rhan o'r gronfa ddŵr yr ydych yn berchen arni

 

Rhan 1 – Lefelau dŵr a dyfnder y dŵr

·         Rhaid cadw cofnod o lefelau'r dŵr a dyfnder y dŵr gan gynnwys llif y dŵr dros y gored gwastraff neu orlif drwy roi'r cofnodion priodol yn y lle a ddarperir isod:

 

Dyddiad

Lefel y dŵr yn y Gronfa Ddŵr wedi ei fesur yn berthynol i Lefel Uchaf y Dŵr.

(Cadarnhaol uwch Lefel Uchaf y Dŵr, negyddol islaw Lefel Uchaf y Dŵr)

Llofnod a swydd y peiriannydd neu berson arall sy'n gyfrifol am y cofnod

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Dyddiad

Dyfnder y dŵr sy'n llifo dros y gored gwastraff neu orlif, mewn metrau

Llofnod a swydd y peiriannydd neu berson arall sy'n gyfrifol am y cofnod

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

·         Dull o gofnodi lefelau dŵr

 

 

 

 

 

·         Datwm y cyfeirir y lefelau iddo, e.e. Datwm Ordnans neu lefel y silff orlif

 

 

 

 

 

·         Manylion y cyfarwyddiadau a roddwyd gan y peiriannydd adeiladu neu'r peiriannydd arolygu ynglŷn â'r modd y dylid cofnodi materion y mae'r Rhan hon yn gysylltiedig â hwy, gan bennu’r dyddiadau a’r amserau y dylid eu cofnodi

 

 

 

 

 

 

            Rhan 2 – Dŵr yn gollwng, waliau'n sefydlogi  neu waith ac atgyweiriadau eraill a

             darlleniadau ar            yr offer

 

·         Rhaid cadw cofnod o ddŵr sy'n gollwng, waliau'n sefydlogi neu waith ac atgyweiriadau eraill drwy wneud y cofnodion priodol yn y lle a ddarperir isod:

 

Safle a maint unrhyw ddŵr sy'n gollwng o'r gronfa ddŵr neu waliau'n sefydlogi  neu waith arall, gan nodi dyddiadau'r darganfyddiad

Disgrifiad o'r camau a gymerwyd o ganlyniad i ganfod dŵr yn gollwng neu wal yn sefydlogi

Llofnod a swydd y peiriannydd neu berson arall sy'n gyfrifol am bob cofnod

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

·         Rhaid cadw cofnod o ddarlleniadau offeryn drwy wneud cofnodion priodol yn y lle a ddarperir isod ar gyfer bob offeryn

 

Cyfeirnod safle'r offeryn:

Dyddiad ac amser y darlleniad

Darlleniad offeryn gan gynnwys unedau, pan fo'n berthnasol

Lefel y dŵr yn y Gronfa Ddŵr ar adeg y darlleniad, wedi ei fesur yn berthynol i Lefel Uchaf y Dŵr

(Cadarnhaol uwch Lefel Uchaf y Dŵr, negyddol islaw Lefel Uchaf y Dŵr)

Llofnod a swydd y peiriannydd neu berson arall sy'n gyfrifol am bob cofnod

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

·         Manylion y cyfarwyddiadau a roddwyd gan beiriannydd adeiladu neu beiriannydd arolygu ynghylch y dull y mae'n rhaid ei ddefnyddio o gofnodi gwybodaeth ynglŷn â materion y mae'r Rhan hon yn ymwneud â hwy, a phennu’r dyddiadau a’r amserau y dylid eu cofnodi

 

 

 

 

 

 

Rhan 3 – Personau sydd â swyddogaeth y mae Deddf 1975 yn darparu ar ei chyfer mewn perthynas â'r gronfa ddŵr

 

·         Ymgymerwyr

 

Enw

 

 

Cyfeiriad

Cyfeiriad e-bost, os ar gael

 

 

Natur yr ymgymeriad

 

·         Corff Adnoddau Naturiol Cymru

 

Enw

 

 

Cyfeiriad

Cyfeiriad e-bost, os ar gael

 

 

 

·         Peiriannydd adeiladu neu beiriannydd a benodwyd at ddibenion adran 8 o Ddeddf 1975

 

Enw

 

 

Cyfeiriad

Cyfeiriad e-bost, os ar gael

 

 

 

·         Unrhyw beiriannydd a benodwyd o dan adran 15 o Ddeddf 1975 gan Gorff Adnoddau Naturiol Cymru

 

Enw

 

Cyfeiriad

Cyfeiriad e-bost, os ar gael

 

Y diben y gwnaed yr apwyntiad ar ei gyfer e.e. at ddibenion adran 8 o Ddeddf 1975

 

·         Peiriannydd Arolygu

 

Enw

 

Cyfeiriad

Cyfeiriad e-bost, os ar gael

 

·         Achos dros benodi peiriannydd arolygu (gweler adran 10(2) o Ddeddf 1975 (e.e. ar argymhelliad peiriannydd goruchwylio)

 

 

·         Dyddiadau penodi—

 

·         Peiriannydd adeiladu neu beiriannydd a benodwyd o dan adran 8 o Ddeddf 1975

·         Peiriannydd arolygu

·         Peiriannydd a benodwyd o dan Adran 15 o Ddeddf 1975

O………………

 

O ………………

O ………………

 

I………………

 

I……………….

I……………….

 

·         Peiriannydd goruchwylio

 

Enw

 

Cyfeiriad

Cyfeiriad e-bost, os ar gael

 

Rhif ffôn swyddfa

Rhif ffôn cartref

Rhan 4 – manylion y cynllun llifogydd

·         Rhaid i grynodeb o wybodaeth am y cynllun llifogydd yn cael ei gadw drwy wneud cofnodion yn y lle a ddarperir isod:

 

Dyddiad y cynllun llifogydd

Lleoliad y cynllun llifogydd

Dyddiad prawf mwyaf diweddar y cynllun llifogydd

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Camau allweddol o'r cynllun llifogydd i gael eu cymryd gan yr ymgymerwr ar gyfer atal dŵr rhag dianc heb reolaeth o'r gronfa ddŵr heb

 

 

 

 

 

Camau allweddol o'r cynllun llifogydd i gael eu cymryd gan yr ymgymerwr ar gyfer rheoli neu liniaru effeithiau llifogydd

 

 

 

 

 

Rhestr o bobl a sefydliadau yr anfonwyd copi o'r cynllun llifogydd atynt

 

Enw a manylion cyswllt y person a'r sefydliad

Y fersiwn o'r cynllun a anfonwyd

Dyddiad anfon

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Manylion am gydymffurfio â chyfarwyddyd gan Weinidogion Cymru

 

Materion y mae'n rhaid eu cynnwys a gofynion Corff Adnoddau Naturiol Cymru

Dull o gydymffurfio

 

 

 

 

 

 

Rhan 5 – Mynediad, capasiti etc.

 

1.     Disgrifiad o'r fynediad gan roi unrhyw gyfyngiadau ar lwyth, lled neu uchder cerbydau sy'n defnyddio'r mynediad a manylion am wneuthuriad y llwybr mynediad

 

 

 

 

 

 

2.     Categori:

 

        Cronfa ddŵr sy'n cronni                  Cronfa ddŵr nad yw'n cronni

 

 

 

3.    Y lefel y ceir storio dŵr ati, heb gynnwys storio llifogydd, fel y pennwyd ddiwethaf mewn tystysgrif a roddwyd un ai o dan Ddeddf 1930 neu Ddeddf 1975

 

 

 

4.     Capasiti'r gronfa ddŵr                                                               metrau ciwbig

 

·       Ar lefel uchaf y dŵr

·       Rhwng lefel naturiol isaf unrhyw ran o'r tir

amgylchynol a lefel uchaf y dŵr

·       Rhwng lefel naturiol isaf unrhyw ran o'r tir

amgylchynol a'r lefel a gofnodwyd mewn tystysgrif

a roddwyd o dan Ddeddf 1930 neu Ddeddf 1975,

heb gynnwys unrhyw

ddarpariaeth ar gyfer storio llifogydd

 

5.     Arwynebedd y dŵr:-                                                                       m2 neu km2

 

·       Ar y lefel a bennwyd yn eitem 3

 

·       Ar lefel uchaf y dŵr

 

 

6.     Cyrhaeddiad effeithiol i'r arglawdd, wal neu argae'r

        gronfa ddŵr mewn metrau

 

        Cyfeiriad

 

 

            Rhan 6 – Arglawdd, wal neu argae'r gronfa ddŵr

 

Math (ticiwch y blwch priodol)

 

Pridd                Cerrig

(pilen neu graidd sy'n selio'n arbennig)

 

 

Disgyrchiant                  Bwtres

 

Arall (nodwch)

 

 

 

 

 

 

Dyddiad cwblhau'r

gwaith adeiladu

 

 

Lefelau uwch na'r Datwm Ordnans mewn metrau:

 

 

o frig yr arglawdd

a wal neu argae'r gronfa

ddŵr

 

 

o frig y wal donnau

 

 

 

Uchder mwyaf yr arglawdd a wal neu argae'r gronfa ddŵr mewn metrau o lefel naturiol isaf y tir yn y droed (gan gynnwys gwely'r nant) i frig yr arglawdd, wal neu argae'r gronfa ddŵr (ac eithrio'r wal donnau)

 

 

 

 

 

 


Manylion:

 

 

·         gwaith tapio                                     Cyfradd uchaf yr arllwysiad,

                                                              m3/s

 

 

·         arllwysfa waelod                               Cyfradd uchaf yr arllwysiad,

                                                             m3/s

 

 

·         unrhyw ddull arall o ostwng               Cyfradd uchaf yr arllwysiad,

                                                             m3/s

 

 

            Rhan 7 – Crynhoad a glawiad cyfartalog blynyddol ar y dalgylch uniongyrchol ac        anuniongyrchol

Dalgylch Uniongyrchol (m2 neu km2)

 

 

 

 

 

 

Dalgylch anuniongyrchol (m2 neu km2)

 

 

 

 

 

 

Dull o ddod â dŵr i'r gronfa ddŵr o'r dalgylch anuniongyrchol, gyda manylion unrhyw reolaeth neu bympiau a ddarperir a chapasiti mewnlif mwyaf

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Nodweddion ffisegol dalgylchoedd uniongyrchol ac anuniongyrchol sy'n effeithio ar y gyfradd storio dŵr

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Manylion glawiad cyfartalog blynyddol ar ddalgylchoedd uniongyrchol ac anuniongyrchol y gronfa ddŵr yn ôl cofnodion y swyddfa feteorolegol

 

 

 

 

 

 

            Rhan 8 – Gwaith gorlifan: math, lleoliad a lefel a'r darpariaethau diogelwch a wnaed mewn cysylltiad  â'u gweithredu

 

(a)   Math a lleoliad, os yn annibynnol o brif strwythur yr arglawdd

 

 

(b)   Manylion, gyda lefelau brig a hyd y canlynol mewn metrau:

·         coredau brig sefydlog

 

·       seiffonau (nodwch a ydynt yn seiffonau cyfrwy a reoleiddir gan aer ai beidio)

 

·       giatiau neu falfiau eraill nad ydynt yn cael eu pennu mewn man arall yn y Rhan hon

 

·       giatiau brig symudol

 

·       twnelau neu nodweddion eraill sy'n effeithio ar y capasiti arllwysiad

 

·       gorlifan argyfwng

 

 

 

(c)   Manylion am y giatiau neu'r falfiau symudol (ticiwch y blwch priodol)

·         Dulliau gweithredu:

 llaw                     awtomatig               rheolaeth arnofio

 

·         Dilyniant y gweithrediadau

 

 

·         Ffynhonnell y pŵer

 

 

·         Trefniadau wrth gefn

 

            Rhan 9 – Camau a gymerir er lles diogelwch neu a allai effeithio ar ddiogelwch

 

Manylion unrhyw fesurau diogelwch a argymhellir o dan Ddeddf 1975 neu Ddeddf 1930

 

Dyddiadau y gweithredwyd argymhellion o’r fath

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Manylion unrhyw gamau a gymerwyd gan Asiantaeth yr Amgylchedd neu Gorff Adnoddau Naturiol Cymru o dan adran 16 o Ddeddf 1975

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Manylion unrhyw gamau a gymerwyd a allai effeithio ar ddiogelwch

Dyddiadau y cynhaliwyd Camau o'r fath

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

            Rhan 10 –Cyfarwyddiadau ac argymhellion Peiriannydd Goruchwylio

·         Rhaid cadw cofnod o'r arolygiadau o'r gronfa ddŵr, gan roi sylw arbennig i'r materion sy'n dylanwadu ar ddiogelwch y gronfa ddŵr fel a nodir mewn cyfarwyddyd gan y Peiriannydd Goruchwylio o dan adran 12(6) o'r Ddeddf drwy wneud cofnodion yn y lle a ddarperir isod

 

Dyddiad yr arolygiad

Mater sy'n gofyn sylw arbennig

Canfyddiadau'r arolygiad

Llofnod a swydd y peiriannydd neu berson arall sy'n gyfrifol am bob cofnod

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Rhan 11 – Digwyddiadau anarferol a allai effeithio ar ddiogelwch y gronfa ddŵr

 

·         Rhaid cadw cofnod o ddigwyddiadau anarferol sy'n dylanwadu ar ddiogelwch y gronfa ddŵr drwy wneud cofnodion yn y lle a ddarperir isod:

 

Manylion unrhyw ddigwyddiadau anarferol, fel actifedd seismig, sydd wedi digwydd yn y gronfa ddŵr neu'n agos at y gronfa ddŵr

Dyddiad(au) unrhyw ddigwyddiad o'r fath

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

            Rhan 12 – Tystysgrifau, adroddiadau, cyfarwyddiadau a chanolwyr

·         Rhaid cadw cofnod o'r tystysgrifau a roddir, adroddiadau a lunnir, cyfarwyddiadau a roddir neu ganolwyr a benodir o dan Ddeddf 1930 neu Ddeddf 1975 drwy wneud cofnodion yn y lle a ddarperir isod:

            Tystysgrifau

 

Dyddiad

Math (e.e. tystysgrif ragarweiniol)

Adran ac is-adran pa bynnag Ddeddf y rhoddwyd y dystysgrif oddi tani (e.e. o dan adran 7(1) o Ddeddf Cronfeydd Dŵr 1975)

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Adroddiadau

 

Dyddiad

Adran ac is-adran pa bynnag Ddeddf y rhoddwyd yr adroddiad oddi tani (e.e. o dan adran 10(3) o Ddeddf Cronfeydd Dŵr 1975)

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Cyfarwyddiadau

 

Dyddiad

Adran ac is-adran Deddf 1975 y rhoddwyd y cyfarwyddyd oddi tani (e.e. o dan adran 12(6) o Ddeddf Cronfeydd Dŵr 1975)

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Penodi Canolwyr

 

Enw'r canolwr

Dyddiad penodi

 

 

 

 

 

 

Rhan 13 – Ail-ddefnyddio, gadael â pheidio â pharhau â chronfeydd dŵr

 

·         Ail-ddefnyddio

 

Enw a chyfeiriad y peiriannydd sifil cymwysedig sy'n gweithredu o dan adran 9 o Ddeddf 1975

Dyddiad penodi'r peiriannydd

Manylion unrhyw gamau a gymerwyd gan Gorff Adnoddau Naturiol Cymru o dan adran 9 o Ddeddf 1975

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

·         Gadael

 

Enw a chyfeiriad y peiriannydd sifil cymwysedig sy'n gweithredu o dan adran 14 o Ddeddf 1975

Dyddiad penodi'r peiriannydd

Manylion unrhyw gamau a gymerwyd gan Gorff Adnoddau Naturiol Cymru o dan adran 14 o Ddeddf 1975

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

·         Peidio â pharhau

 

Enw a chyfeiriad peiriannydd sifil cymwysedig sy'n gweithredu o dan adran 13 o Ddeddf 1975

Dyddiad penodi'r peiriannydd

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Part 14 – Cofrestr lluniadau

 

·         Rhaid cadw cofrestr o lluniadau o'r gronfa ddŵr a'i darnau cydrannol drwy lenwi'r tabl isod:

 

Rhif y lluniad

Teitl y lluniad

Rhif  diwygio

Dyddiad cymeradwyo

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Rhan 15 – Offer yn y gronfa ddŵr

·         Rhaid cadw cofnod o fath, lleoliad, oedran a chyflwr yr offer a osodir yn y gronfa ddŵr drwy wneud cofnodion yn y lle a ddarperir isod. Rhaid dangos lleoliadau offer gyda'u rhifau cyfeirnod ar y lluniadau perthnasol o'r gronfa ddŵr.

 

Cyfeirnod y safle

Math a rhif cyfresol yr offeryn a

manylion allweddol

Lleoliad yn y gronfa ddŵr

Dyddiad gosod

Cyflwr a dyddiad asesu

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Rhan 16 – Maint agoriad y falfiau, y giatiau a'r llifddorau

 

·         Rhaid cadw cofnod o faint agoriad y falfiau, y giatiau a'r llifddorau drwy wneud y cofnodion priodol yn lle a ddarperir isod:

 

Dyddiad

Math a lleoliad offer (giât, falf neu lifddor)

Maint agoriad

Llofnod a swydd y peiriannydd neu berson arall sy'n gyfrifol am y cofnod

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

·         Dull o gofnodi maint agoriad pob math o offer

 

 

 

 

 

 

·         Gweithdrefnau a ddefnyddiwyd i weithredu pob math o offer ac ar gyfer darllen maint agoriad

 

 

 

 

 

 

·         Manylion cyfarwyddiadau a roddwyd gan y peiriannwr adeiladu neu'r peiriannydd arolygu ynglŷn â'r modd y dylid cofnodi gwybodaeth am faterion y mae'r Rhan hon yn gysylltiedig â hwy a phennu’r dyddiadau a’r amserau y dylid eu cofnodi

 

 

 

 

 

 


                    ATODLEN 3        Rheoliad 8

Materion rhagnodedig cysylltiedig â chronfeydd dŵr perygl uchel y mae'n rhaid i ymgymerwr gadw cofnod ohonynt

Dehongli

1. Ystyr “cyrhaeddiad” (“fetch”) yn yr Atodlen hon yw hyd effeithiol y gronfa ddŵr y gall tonnau gael eu creu ar ei hyd gan wynt.

Materion rhagnodedig

2. Rhaid i ymgymerwr cronfeydd dŵr perygl uchel gadw cofnod o'r materion canlynol—

(a)     unrhyw un sydd wedi gweithredu fel ymgymerwr neu beiriannydd o dan Ddeddf 1975;

(b)     manylion y cynllun llifogydd;

(c)     dull o gael mynediad i'r gronfa ddŵr;

(d)     categori'r gronfa ddŵr (h.y. cronfa sy'n cronni neu gronfa nad yw'n cronni), ei defnydd, y lefel ardystiedig y ceir storio dŵr ati,  arwynebedd y dŵr wyneb, capasiti a chyrhaeddiad;

(e)     cymeriad strwythurol yr argae/argaeau, waliau neu argloddiau'r gronfa ddŵr, dyddiad eu cwblhau, uchder, lefel uchaf yr argae/argaeau, waliau neu argloddiau'r gronfa ddŵr a'r wal donnau uwch y Datwm Ordnans;

(f)      manylion y gwaith tapio, arllwysfa waelod, neu unrhyw ddull arall o ostwng lefel y dŵr, ynghyd â chyfraddau arllwysiad uchaf;

(g)     nodweddion ffisegol dalgylchoedd uniongyrchol ac anuniongyrchol y gronfa ddŵr a dull o lenwi o'r dalgylch anuniongyrchol;

(h)     glawiad cyfartalog blynyddol ar y dalgylch uniongyrchol ac anuniongyrchol y gronfa ddŵr;

(i)      gweithfeydd gorlifan, eu math, lleoliad a lefel y darpariaethau diogelwch a wnaed mewn perthynas â'u gweithrediad;

(j)      camau a gymerwyd er lles diogelwch ar argymhelliad peiriannydd sifil cymwysedig;

(k)     cyfarwyddiadau ac argymhellion peiriannydd goruchwylio;

(l)      digwyddiadau anarferol a allai effeithio ar ddiogelwch y gronfa ddŵr;

(m)   tystysgrifau a roddir o dan Ddeddf 1975 neu o dan Ddeddf 1930;

(n)     adroddiadau a wnaed o dan Ddeddf 1975 neu o dan Ddeddf 1930;

(o)     cyfarwyddiadau a wnaed o dan Ddeddf 1975;

(p)     penodi canolwyr o dan Ddeddf 1975;

(q)     ail-ddefnyddio, gadael a pheidio â pharhau;

(r)      cofrestr lluniadau;

(s)      offer yn y gronfa ddŵr;

(t)      cofnodion o faint agoriad falfiau, giatiau a llifddorau, gwybodaeth a chyfarwyddiadau cysylltiedig gan beiriannydd.


            ATODLEN 4         Rheoliad 9

Tystysgrifau

Mae'r llythrennau wedi eu hitaleiddio ar ffurflenni'r tystysgrifau yn yr Atodlen hon yn dynodi'r wybodaeth y mae'n rhaid ei chynnwys fel a ganlyn

(a)     enw'r peiriannydd;

(b)     cyfeiriad y peiriannydd;

(c)     enw'r panel y mae'r peiriannydd wedi ei benodi iddo;

(d)     enw'r ymgymerwyr;

(e)     enw'r gronfa ddŵr;

(f)      safle'r gronfa ddŵr, gyda digon o fanylion i'w hadnabod (gan gynnwys Cyfeirnod Grid Cenedlaethol canol y gronfa ddŵr yn fras);

(g)     y lefel y ceir llenwi dŵr uwch y Datwm Ordnans, ac eithrio'r lwfans a wneir ar gyfer amodau llifogydd;

(h)     y lefel y ceir storio dŵr uwch y Datwm Ordnans, ac eithrio'r lwfans a wneir ar gyfer storio llifogydd;

(i)      dyddiad y dystysgrif ragarweiniol neu interim fel y bo'n briodol;

(j)      amodau y ceir llenwi'r gronfa â dŵr yn ddarostyngedig iddynt, neu y gellir storio dŵr ynddi hyd at y lefel a bennir;

(k)     dyddiad yr adroddiad, y dystysgrif, y cyfarwyddyd fel y bo'n briodol;

(l)      dyddiad cwblhau'r gwaith;

(m)   y cyfnod o amser a argymhellir yn yr adroddiad y dylid gwneud yr arolygiad nesaf oddi mewn iddo;

(n)     dyddiad adroddiad y peiriannydd arolygu;

(o)     enw'r peiriannydd arolygu;

(p)     enw'r canolwr;

(q)     cyfeiriad y canolwr;

(r)      dyddiad penderfyniad y canolwr;

(s)      enw'r person sy'n penodi'r canolwr;

(t)      cyfaint y dŵr sy'n gwneud cronfa ddŵr yn “gyforgronfa ddŵr fawr” o dan y Ddeddf;

(u)     yr amser y mae'n rhaid gostwng lefel y dŵr oddi mewn iddo.

Yn y ffurflenni tystysgrifau, ni ddylid cynnwys cromfachau sgwâr a'r geiriau oddi mewn iddynt lle maent yn amhriodol.


Deddf Cronfeydd Dŵr 1975

Tystysgrif Ragarweiniol

• Rwyf i (a) o (b), sy'n aelod o'r (c), a benodwyd gan (d) i fod yn gyfrifol am

[adeiladu cyforgronfa ddŵr fawr newydd]

[adeiladu cyforgronfa ddŵr fawr newydd drwy addasu cronfa ddŵr bresennol]

[addasu capasiti cyforgronfa ddŵr fawr]

[ail-ddefnyddio cronfa ddŵr a adawyd]

a adnabyddir fel (e) wedi ei lleoli yn (f), yn ystyried y gellid yn briodol lenwi y [/yr addasiad i'r] gronfa ddŵr  yn [llwyr] [rhannol] â dŵr hyd at lefel o (g) [yn ôl yr amodau canlynol (j).]

[Rhoddir y dystysgrif ragarweiniol hon  mewn perthynas â thystysgrif ragarweiniol flaenorol a roddwyd gan (a) o (b) ar (i) ac mae'n disodli'r dystysgrif honno o ran ei bod yn amrywio [lefel y dŵr] [yr amodau] a bennir yn y dystysgrif honno.]

Llofnod y Peiriannydd

Dyddiad y Dystysgrif

 

Deddf Cronfeydd Dŵr 1975

Tystysgrif Interim wrth Addasu Cronfa Ddŵr

Rwyf i (a) o (b), sy'n aelod o'r (c), a benodwyd gan (d) i fod yn gyfrifol am addasiad i gyforgronfa ddŵr fawr, a adnabyddir fel (e) wedi ei lleoli yn (f), yn ystyried na ddylai'r addasiad i'r gronfa ddŵr gael ei lenwi â dŵr i lefel nac yn ôl yr amodau a fyddai'n gyfreithiol pe na roddid y dystysgrif hon, ond y ceir ei llenwi â dŵr i lefel (g) hyd nes y cyflwynir tystysgrif ragarweiniol [ac mae'n rhaid i unrhyw ostyngiad i lefel y dŵr i (g) gael ei wneud gan (u)], [yn ôl yr amodau canlynol (j).]

[Rhoddir y dystysgrif interim hon mewn perthynas â thystysgrif interim a roddwyd gan (a) o (b) ar (i) ac mae'n disodli'r dystysgrif honno o ran ei bod yn amrywio [lefel y dŵr] [yr amodau] a bennir yn y dystysgrif honno.]

Llofnod y Peiriannydd

Dyddiad y Dystysgrif

 

 

Deddf Cronfeydd Dŵr 1975

Tystysgrif Derfynol

Rwyf i (a) o (b), sy'n aelod o'r (c), a benodwyd gan (d) i fod yn gyfrifol am

[adeiladu cyforgronfa ddŵr fawr newydd]

[adeiladu cyforgronfa ddŵr fawr newydd drwy addasu cronfa ddŵr bresennol]

[addasu capasiti cyforgronfa ddŵr fawr]

[ail-ddefnyddio cronfa ddŵr a adawydl]

a adnabyddir fel (e), wedi ei lleoli yn (f), [y rhoddwyd tystysgrif ragarweiniol ar ei chyfer ar (i) (gweler Nodyn 1)] yn fodlon bod [yr addasiad i'r] y gronfa ddŵr [yn gadarnac yn foddhaol ac (gweler Nodyn 2)] y ceir ei defnyddio'n ddiogel i storio dŵr hyd at lefel (h) (yn ddarostyngedig i'r amodau canlynol (j)].

[Rwyf hefyd yn fodlon bod yr argymhellion ynglŷn â chamau i'w cymryd er lles diogelwch a gynhwysir yn yr adroddiad, wedi ei ddyddio (k) a wnaed gan (Enw'r Peiriannydd a wnaeth yr adroddiad) wedi eu rhoi mewn grym (gweler Nodyn 3).]

Llofnod y Peiriannydd

 

 

Dyddiad y Dystysgrif

 

Atodiad i'r Dystysgrif (gweler Nodyn 4)

Nodiadau

1. Pan fo tystysgrif derfynol yn cael ei rhoi o dan adran 8 o'r Ddeddf, mae'n bosibl nad oes tystysgrif ragarweiniol wedi ei chyflwyno.

2. Nid oes yn rhaid i dystysgrif derfynol a roddir o dan adrannau 8 neu 9 (ac eithrio un a roddir yn yr amgylchiadau a ddisgrifir uchod yn adran 8(5) ddatgan bod y peiriannydd yn fodlon bod y gronfa ddŵr, neu'r ychwanegiad iddi, yn gadarn ac yn foddhaol.

3. Os nad yw tystysgrif derfynol yn datgan bod y peiriannydd yn fodlon bod y gronfa ddŵr yn gadarn ac yn foddhaol, am y rhesymau a roddir yn Nodyn 2 uchod, a bod adroddiad a wnaed un ai o dan adran 8(2) neu 9(1) o'r Ddeddf yn cynnwys unrhyw argymhellion ynglŷn â chamau y mae'n rhaid eu cymryd er lles diogelwch, rhaid i'r peiriannydd ddatgan bod yr argymhellion hynny wedi eu rhoi mewn grym - adrannau 8(6) a 9(5) o'r Ddeddf.

4. Rhaid i'r peiriannydd gynnwys mewn atodiad i’r dystysgrif nodyn ar y materion, os oes materion o gwbl, y mae'n ystyried bod angen iddynt gael eu gwylio gan beiriannydd goruchwylio yn ystod y cyfnod cyn i arolygiad o'r gronfa ddŵr gael ei gynnal o dan y Ddeddf mewn atodiad i'r dystysgrif - adran 7(5) o'r Ddeddf.

 

Deddf Cronfeydd Dŵr 1975

Tystysgrif Gweithredu Gwaith yn Effeithiol o dan adran [7(6)][8(7)]

Rwyf i (a) o (b), sy'n aelod o'r (c), a benodwyd gan (d) i fod yn gyfrifol am

[adeiladu cyforgronfa ddŵr fawr newydd]

[adeiladu cyforgronfa ddŵr fawr newydd drwy addasu cronfa ddŵr bresennol]

[addasu capasiti cyforgronfa ddŵr fawr]

a adnabyddir fel (e), wedi ei lleoli yn (f), a gwblhawyd ar (l) yn ardystio [cyn belled ag y gallaf ganfod] (gweler Nodyn 1) bod y gwaith hwnnw wedi ei weithredu'n effeithiol yn unol â'r lluniadau a'r disgrifiadau a atodir i'r dystysgrif hon (gweler Nodyn 2).

Llofnod Peiriannydd

Dyddiad Tystysgrif

 

Atodiad i'r Dystysgrif (gweler Nodyn 2)

Nodiadau

 

1. Dylai tystysgrif cyflawniad gwaith a roddir o dan adran 8(7) o'r Ddeddf, yn wahanol i dystysgrif a roddir o dan adran 7(6), gynnwys y geiriau hyn.

2. Mae'r adrannau a grybwyllir yn Nodyn 1 yn ei gwneud hi’n ofynnol i atodi lluniadau a disgrifiadau manwl sy'n rhoi gwybodaeth lawn am y gwaith a adeiladwyd mewn gwirionedd gan gynnwys dimensiynau a lefelau a manylion am y dyddodion neu strata daearegol a ganfuwyd mewn tyllau prawf neu gloddiadau a wnaed mewn cysylltiad â'r gwaith ..

 

Deddf Cronfeydd Dŵr 1975

Tystysgrif Peiriannydd Arolygu o dan adran 10(5)

Rwyf i (a) o (b), sy'n aelod o'r (c), a benodwyd gan (d)i gynnal arolygiad o'r gronfa ddŵr a adnabyddir fel (e) sydd wedi ei lleoli yn (f), wedi paratoi adroddiad o'r arolygiad hwnnw ar (k) sydd [ddim yn cynnwys] [yn cynnwys] argymhellion ynglŷn â chamau y mae'n rhaid eu cymryd er lles diogelwch ac sydd [ddim yn cynnwys] [yn cynnwys] argymhellion ynglŷn â chynnal a chadw'r gronfa ddŵr. [Mae'r adroddiad hwnnw hefyd yn cynnwys argymhelliad ynglŷn ag amser yr arolygiad nesaf o'r gronfa ddŵr, y dylid ei gynnal o fewn [m].]

Llofnod y Peiriannydd

Dyddiad y Dystysgrif

 

 

Deddf Cronfeydd Dŵr 1975

Tystysgrif o dan adran 10(6), ynglŷn â gweithredu argymhellion diogelwch

Rwyf i (a) o (b), sy'n aelod o'r (c), a benodwyd gan (d) i oruchwylio gweithrediad y camau a gymerir yn y gronfa ddŵr a adnabyddir fel (e) sydd wedi ei lleoli yn (f), er lles diogelwch, a argymhellir mewn adroddiad a wnaed ar (n) gan (o), [a addaswyd gan benderfyniad (p) o (q), sy'n gweithredu fel canolwr, a roddwyd ar (r),] yn fodlon bod y mesurau hynny wedi eu gweithredu.

Llofnod y Peiriannydd

Dyddiad y Dystysgrif

 

 

Deddf Cronfeydd Dŵr 1975

Tystysgrif o dan adran 12AA(3), ynglŷn â bodloni gofynion cyfarwyddyd o dan adran 12A(2)(a) a (b)

Rwyf i (a) o (b), sy'n aelod o'r (c), a benodwyd gan (d) i ymgynghori ar baratoi cynllun llifogydd o dan adran 12A ar gyfer y gronfa ddŵr a adnabyddir fel (e) sydd wedi ei lleoli yn (f), yn fodlon bod gofynion cyfarwyddyd o dan adran 12A(2)(a) a (b) wedi eu bodloni.

Llofnod y Peiriannydd

Dyddiad y Dystysgrif

Deddf Cronfeydd Dŵr 1975

Tystysgrif Interim o dan adran 13(1A), ar Beidio â Pharhau

Rwyf i (a) o (b), sy'n aelod o'r (c), a benodwyd gan (d) i [gynllunio] [gymeradwyo] ac i oruchwylio'r addasiad i'r gronfa ddŵr a adnabyddir fel (e) sydd wedi ei lleoli yn (f), fel nad oes modd iddi ddal mwy na (t) medr ciwbig o ddŵr uwch lefel naturiol unrhyw ran o'r tir sy'n ei amgylchynu, yn ystyried y dylid gostwng lefel y dŵr yn y gronfa ddŵr i lefel o (g) gan (u) [yn ddarostyngedig i'r amodau canlynol (j)].

Llofnod y Peiriannydd

Dyddiad Tystysgrif

 

 

Tystysgrif o dan adran 13(2), ar Beidio â Pharhau

Rwyf i (a) o (b), sy'n aelod o'r (c), a benodwyd gan (d) i [gynllunio] [gymeradwyo] ac i oruchwylio'r addasiad i'r gronfa ddŵr a adnabyddir fel (e) sydd wedi ei lleoli yn (f), fel nad oes modd iddi ddal mwy na (t) medr ciwbig o ddŵr uwch lefel naturiol unrhyw ran o'r tir sy'n ei hamgylchynu, yn fodlon bod yr addasiad wedi ei gwblhau ac wedi ei weithredu'n effeithiol.

Llofnod y Peiriannydd

Dyddiad Tystysgrif

 

 

Deddf Cronfeydd Dŵr 1975

Tystysgrif o dan adran 14(3), ar Adael Cronfa Ddŵr

Rwyf i (a) o (b), sy'n aelod o'r (c), a benodwyd gan (d) i roi adroddiad am y camau (os oes rhai) y dylid eu cymryd er lles diogelwch er mwyn sicrhau nad oes modd i'r gronfa ddŵr a adnabyddir fel (e) sydd wedi ei lleoli yn (f), lenwi â dŵr yn ddamweiniol neu'n naturiol yn uwch na lefel naturiol unrhyw ran o'r tir amgylchynol neu sicrhau nad yw'n llenwi ddim ond i raddau nad yw'n achosi risg, wedi rhoi adroddiad heddiw o dan adran 14(1) o'r Ddeddf [nad yw'n cynnwys] [sydd yn cynnwys] argymhellion ynglŷn â chamau y dylid eu cymryd er lles diogelwch.

Llofnod y Peiriannydd

Dyddiad y Dystysgrif

 

 

Deddf Cronfeydd Dŵr 1975

Tystysgrif o dan adran 15(2), ynglŷn â gweithredu Argymhellion Diogelwch

Rwyf i (a) o (b), sy'n aelod o'r (c), a benodwyd gan Asiantaeth yr Amgylchedd, yn dilyn methiant (Enw'r ymgymerwyr) i gydymffurfio â Hysbysiad gan yr Asiantaeth yr Amgylchedd yn gofyn iddynt weithredu argymhellion a gynhwysir mewn adroddiad a wnaed o dan y Ddeddf hon gan (a) ar (k) [ac a addaswyd gan benderfyniad canolwr] ynglŷn â chamau i’w cymryd er lles diogelwch yn (e) sydd wedi ei lleoli yn (f) i oruchwylio cyflawniad y mesurau hynny, yn fodlon bod yr argymhellion hynny wedi eu gweithredu.

Llofnod y Peiriannydd

Dyddiad y Dystysgrif

 

Deddf Cronfeydd Dŵr 1975

Tystysgrif Canolwr o dan adran 19(4)

Rwyf i (a) o (b), sy'n aelod o'r (c), a benodwyd gan (s) i ymchwilio i gŵyn (Enw'r ymgymerwyr), ymgymerwyr ar gyfer y gronfa ddŵr a adnabyddir fel (e) sydd wedi ei lleoli yn (f), ynglŷn ag argymhelliad a gynhwysir mewn adroddiad wedi ei ddyddio (k) a baratowyd gan (Enw'r Peiriannydd sy’n gwneud yr Adroddiad) [ynglŷn â chamau y mae'n rhaid eu cymryd er lles diogelwch yn] [ac/neu] [ynglŷn ag argymhellion ynglŷn â chynnal a chadw] y gronfa ddŵr; wedi penderfynu [peidio ag] addasu'r adroddiad hwnnw.

[Yn unol â hynny, rwyf yn diwygio'r dystysgrif ddyddiedig (k) a roddwyd mewn cysylltiad â'r adroddiad hwnnw, yn y dull canlynol:-]

Llofnod y Canolwr

Dyddiad y Dystysgrif


                    ATODLEN 5       Rheoliad 10

Adroddiadau

Yn yr Atodlen hon mae cyfeiriadau at ganfyddiadau ac argymhellion peiriannydd yn cynnwys—

(a)     cadarnhad fod yr ymgymerwr wedi cofnodi'r wybodaeth sy'n ofynnol o dan adran 11 o Ddeddf 1975;

(b)     manylion unrhyw gyfarwyddiadau a roddwyd gan y peiriannydd yn pennu’r dyddiadau a’r amserau y dylid cofnodi gwybodaeth a’r dull o wneud hynny o dan adran 11 o Ddeddf 1975;

(c)     manylion unrhyw argymhellion ynghylch gwneud addasiadau neu ychwanegiadau i waith neu osod offer neu fedrydd er mwyn mesur dŵr sy'n gollwng, gwyriadau, sefydlogi, codiad, gwasgeddau mandyllau neu faterion tebyg;

(d)     manylion unrhyw symudiad yn y tir amgylchynol a welir a allai effeithio ar sefydlogrwydd y gronfa ddŵr;

(e)     canfyddiadau ynglŷn â digonolrwydd a chyflwr y gored wastraff neu orlif ac unrhyw sianeli cysylltiedig;

(f)      datganiad am unrhyw addasiadau y mae'r peiriannydd wedi eugweld sy'n effeithiol ar y lefel y ceir storio dŵr iddi neu lefel y silffoedd gorlif ers yr adeiladu neu ers yr arolygiad diwethaf;

(g)     datganiad am ddigonolrwydd y ffin rhwng argae/argaeau, waliau’r gronfa ddŵr neu lefel argloddiau'r gronfa ddŵr a lefel y gorlif;

(h)     canfyddiadau ynglŷn ag effeithlonrwydd y beipen sgwrio neu'r cylfat rhyddhau neu unrhyw ddull arall o ostwng lefel y dŵr yn y gronfa ddŵr ac unrhyw ddull o reoli'r dŵr sy'n llifo i'r gronfa ddŵr.

Yn ffurflenni'r adroddiadau hyn, ni ddylid cynnwys cromfachau sgwâr a'r geiriau oddi mewn iddynt lle maent yn amhriodol.


Deddf Cronfeydd Dŵr 1975

 Adroddiad o Ganlyniad Arolygiad a wnaed o dan adran 8

 [Adeiladu][Addasu] Cronfa Ddŵr

• Enw a Safle’r Gronfa Ddŵr, gan gynnwys Cyfeirnod Grid Cenedlaethol canol y gronfa ddŵr yn fras
• Enw a Chyfeiriad y Peiriannydd
• Enw'r Panel y mae'r Peiriannydd yn aelod ohono
• Enw a Chyfeiriad yr Ymgymerwyr a benododd y Peiriannydd neu gadarnhad bod Corff Adnoddau Naturiol Cymru wedi penodi'r Peiriannydd, fel sy'n briodol
• Dyddiad neu Ddyddiadau Arolygiad y Peiriannydd

•Canfyddiadau'r Peiriannydd ynglŷn ag [adeiladu] [addasu] y gronfa ddŵr, gan gynnwys unrhyw argymhellion y gwêl y peiriannydd yn addas i'w gwneud fel camau y mae'n rhaid eu cymryd er lles diogelwch.

Llofnod y Peiriannydd
Dyddiad yr Adroddiad


 

Deddf Cronfeydd Dŵr 1975

Adroddiad ar Ganlyniad Arolygiad a wnaed o dan adran 9

Ail-ddefnyddio Cronfa Ddŵr a adawyd

● Enw a Safle'r Gronfa Ddŵr, gan gynnwys Cyfeirnod Grid Cenedlaethol canol y gronfa ddŵr yn fras

● Enw a Chyfeiriad y Peiriannydd

● Enw'r Panel y mae'r Peiriannydd yn aelod ohono

● Enw a Chyfeiriad yr Ymgymerwyr a benododd y Peiriannydd neu gadarnhad bod Corff Adnoddau Naturiol Cymru wedi penodi'r Peiriannydd, fel y bo’n  briodol

● Dyddiad neu Ddyddiadau'r Arolygiad

● Canfyddiadau'r Peiriannydd ynghylch ail-ddefnyddio'r Gronfa Ddŵr gan gynnwys unrhyw argymhellion y gwêl y peiriannydd yn addas i'w gwneud fel camau y mae'n rhaid eu cymryd er lles diogelwch.

Llofnod y Peiriannydd

Dyddiad yr Adroddiad

 

 

Deddf Cronfeydd Dŵr 1975

Adroddiad ar ganlyniad Arolygiad a wnaed o dan adran 10

Arolygiad Cyfnodol o Gyforgronfa Ddŵr Fawr

● Enw a Safle'r Gronfa Ddŵr, gan gynnwys Cyfeirnod Grid Cenedlaethol canol y gronfa ddŵr yn fras

● Enw a Chyfeiriad y Peiriannydd

● Enw'r Panel y mae'r Peiriannydd yn aelod ohono

● Enw a Chyfeiriad yr Ymgymerwyr a benododd y Peiriannydd neu gadarnhad bod Corff Adnoddau Naturiol Cymru wedi penodi'r Peiriannydd, fel y bo'n briodol

● Dyddiad neu Ddyddiadau'r Arolygiad

● Canfyddiadau'r Peiriannydd, gan gynnwys unrhyw argymhellion y gwêl y peiriannydd yn addas i'w gwneud fel camau y mae'n rhaid eu cymryd er lles diogelwch neu ynglŷn â chynnal a chadw'r gronfa ddŵr; a nodyn o unrhyw faterion yr ystyria'r peiriannydd y mae angen i'r peiriannydd goruchwylio gadw llygad arno yn ystod y cyfnod cyn yr arolygiad nesaf o'r gronfa ddŵr o dan adran 10

● Datganiad ynglŷn a yw'r holl gamau diogelwch a argymhellwyd yn yr adroddiad blaenorol wedi eu cymryd; ac, un ai argymelliadau ynglŷn â chymryd unrhyw gamau diogelwch sydd heb eu cymryd neu eglurhad o'r rhesymau nad oes angen argymhelliad mwyach.

Llofnod y Peiriannydd

Dyddiad yr Adroddiad

 

 

Atodiad i'r Adroddiad (os yw’n ofynnol o dan adran 26 ar gyfer cronfeydd dŵr a gwblhawyd cyn i Ddeddf 1930 ddod i rym ac os na chawsant eu harolygu o dan y Ddeddf honno)

 

 

Deddf Cronfeydd Dŵr 1975

Adroddiad a wnaed o dan adran 14

Gadael Cyforgronfa Ddŵr Fawr

● Enw a Safle'r Gronfa Ddŵr, gan gynnwys Cyfeirnod Grid Cenedlaethol canol y gronfa ddŵr yn fras

● Enw'r Panel y mae'r Peiriannydd yn aelod ohono

● Enw a Chyfeiriad yr Ymgymerwyr a benododd y Peiriannydd neu gadarnhad bod Corff Adnoddau Naturiol Cymru wedi penodi'r Peiriannydd, fel y bo'n briodol

● Dyddiad neu Ddyddiadau'r Arolygiad o'r Gronfa Ddŵr (os cynhaliwyd un o gwbl)

● Argymhellion y Peiriannydd ynglŷn â'r camau y dylid eu cymryd (os unrhyw gamau o gwbl) er lles diogelwch er mwyn sicrhau nad oes modd i'r gronfa ddŵr lenwi â dŵr yn ddamweiniol neu'n naturiol yn uwch na lefel naturiol unrhyw ran o'r tir amgylchynol neu sicrhau nad yw'n llenwi ddim ond i raddau nad yw'n achosi risg

Llofnod y Peiriannydd

Dyddiad yr Adroddiad


                    ATODLEN 6       Rheoliad 11

Cyfarwyddiadau

Mae'r llythrennau wedi eu hitaleiddio ar ffurf y cyfarwyddiadau yn yr Atodlen hon yn dangos yr wybodaeth y dylid ei chynnwys fel a ganlyn—

(a)     enw'r peiriannydd;

(b)     cyfeiriad y peiriannydd;

(c)     enw'r panel y mae'r peiriannydd wedi ei benodi iddo;

(d)     enw'r ymgymerwyr;

(e)     enw'r gronfa ddŵr;

(f)      safle'r gronfa ddŵr, gyda digon o fanylion i'w hadnabod (gan gynnwys Cyfeirnod Grid Cenedlaethol canol y gronfa ddŵr yn fras);

(g)     y lefel y ceir llenwi dŵr uwch y Datwm Ordnans, ac eithrio'r lwfans a wneir ar gyfer amodau llifogydd;

(h)     y lefel y ceir storio dŵr uwch y Datwm Ordnans, ac eithrio'r lwfans a wneir ar gyfer storio llifogydd;

(i)      dyddiad y dystysgrif ragarweiniol neu interim fel y bo'n briodol;

(j)      amodau y ceir llenwi'r gronfa â dŵr yn ddarostyngedig iddynt, neu y gellir storio dŵr ynddi hyd at y lefel a bennir;

(k)     dyddiad yr adroddiad, tystysgrif, cyfarwyddyd fel y bo'n briodol;

(l)      dyddiad cwblhau'r gwaith;

(m)   y cyfnod o amser a argymhellir yn yr adroddiad y dylid gwneud yr arolygiad nesaf oddi mewn iddo;

(n)     dyddiad adroddiad y peiriannydd arolygu;

(o)     enw'r peiriannydd arolygu;

(p)     enw'r canolwr;

(q)     cyfeiriad y canolwr;

(r)      dyddiad penderfyniad y canolwr;

(s)      enw'r person sy'n penodi'r canolwr;

(t)      cyfaint y dŵr sy'n gwneud cronfa ddŵr yn gyforgronfa ddŵr fawr o dan Ddeddf 1975.

Yn y ffurfiaucyfarwyddiadau hyn, ni ddylid cynnwys cromfachau sgwâr a'r geiriau oddi mewn iddynt lle maent yn amhriodol.


Deddf Cronfeydd Dŵr 1975

Cyfarwyddyd o dan adran 11(2) gan y [Peiriannydd Adeiladu] [Peiriannydd Arolygu], ynglŷn â'r bwlch rhwng cofnodi gwybodaeth benodol a ragnodwyd gan reoliadau a wnaed o dan 11(1) a'r dull o wneud hynny.

Rwyf i (a) o (b), sy'n aelod o'r (c), a benodwyd gan (d) i [oruchwylio'r gwaith o adeiladu] [arolygu] y gronfa ddŵr a adnabyddir fel (e) sydd wedi ei lleoli yn (f), yn cyfarwyddo y dylai'r wybodaeth ragnodedig ganlynol gael ei chofnodi ar yr adegau ac yn y dull a nodir.

 

Gwybodaeth y mae'n rhaid ei chofnodi

Dull o gofnodi'r wybodaeth

Bwlch rhwng cofnodion

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Llofnod y Peiriannydd

Dyddiad y Cyfarwyddyd

 

Nodiadau
1.
Y materion y mae'n rhaid eu cofnodi yw unrhyw rai o'r materion a restrir ar ffurfy cofnod a ragnodwyd gan reoliadau a wnaed o dan adran 11(1) o'r Ddeddf.

2. Dylid ychwanegu rhesi ychwanegol i'r tabl yn ôl yr angen.


Deddf Cronfeydd Dŵr 1975

Cyfarwyddyd o dan adran 12(6) gan y Peiriannydd Arolygu, ynglŷn â'r

arolygiad gweledol cyfnodol a gynhelir gan Ymgymerwr y gronfa ddŵr

Rwyf i (a) o (b), sy'n aelod o'r (c), a benodwyd gan (d) i oruchwylio'r gronfa ddŵr a adnabyddir fel (e) sydd wedi ei lleoli yn (f), yn cyfarwyddo bod yn rhaid i'r gronfa ddŵr gael ei harolygu o leiaf yn [ddyddiol] [wythnosol] [fisol] [Chwarterol] [flynyddol] at ddiben canfod unrhyw beth a allai effeithio ar ddiogelwch y gronfa ddŵr, gyda'r cyfnod yn dechrau ar (k).

 

Dylid rhoi sylw arbennig i'r materion isod yn rhan o'r arolygiad o'r gronfa ddŵr gyfan.

 

Materion sydd angen sylw arbennig

 

 

 

 

Llofnod y Peiriannydd

Dyddiad y Cyfarwyddyd


Deddf Cronfeydd Dŵr 1975


Cyfarwyddyd o dan adran 12AA(4) gan [Peiriannydd Goruchwylio] [Peiriannydd Penodedig], ynglŷn â phrofi’r cynllun llifogydd

Rwyf i (a) o (b), sy'n aelod o'r (c), a benodwyd gan (d) i [oruchwylio'r] [ymgynghori  ar baratoi cynllun llifogydd o dan adran 12A ar gyfer] y gronfa ddŵr a adnabyddir fel (e) sydd wedi ei lleoli yn (f), yn cyfarwyddo bod yn rhaid i'r cynllun llifogydd gael ei brofi fel y pennir isod, gyda'r cyfnod yn dechrau ar (k). Bydd adroddiad o'r prawf yn cael ei ddarparu er mwyn asesu'r angen i ddiwygio'r cynllun.

 

Elfen o'r cynllun llifogydd

Dull o brofi

Bwlch rhwng cofnodion

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Llofnod y Peiriannydd

Dyddiad y Cyfarwyddyd

 

Nodiadau

1. Nid oes angen cadw at yr un bwlch rhwng profion pob un o elfennau'r cynllun llifogydd.


Deddf Cronfeydd Dŵr 1975

Cyfarwyddyd o dan adran 12AA(7) gan y [Peiriannydd Arolygu] [Peiriannydd Penodedig], ynglŷn â diwygio cynllun llifogydd

 

Rwyf i (a) o (b), sy'n aelod o'r (c), a benodwyd gan (d) i [oruchwylio'r] [ymgynghori  ar baratoi cynllun llifogydd o dan adran 12A ar gyfer]  y gronfa ddŵr a adnabyddir fel (e) sydd wedi ei lleoli yn (f), yn cyfarwyddo bod yn rhaid i'r cynllun llifogydd gael ei ddiwygio fel y pennir isod.

 

Elfen o'r cynllyn llifogydd

Diwygiad Angenrheidiol

Amseru

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Llofnod y Peiriannydd

Dyddiad y Cyfarwyddyd

 

Nodiadau

1. Nid oes yr un brys i wneud diwygiadau i bob un o elfennau'r cynllun llifogydd.

 


Deddf Cronfeydd Dŵr 1975

Cyfarwyddyd o dan adran 19(4A) gan Ganolwr, ynglŷn â rhoi Tystysgrif at ddibenion adran 12AA(3)

 

Rwyf i (a) o (b), sy'n aelod o (c), a benodwyd gan (s) i ymchwilio i gwynion (Enw'r ymgymerwyr), ymgymerwyr ar gyfer y gronfa ddŵr a adnabyddir fel (e) sydd wedi ei lleoli yn (f), ynglŷn â gwrthodiad (Enw'r Peiriannydd) i roi  tystysgrif o dan adran 12AA(3), ynglŷn â bodloni gofynion cyfarwyddyd o dan adran 12A(2)(a) a (b); wedi penderfynu ar ôl ystyriaeth ddyladwy bod gofynion cyfarwyddyd o dan adran 12A(2)(a) a (b) wedi’u bodloni.

Yn unol â hynny, cyfarwyddaf (Enw'r Peiriannydd) i roi tystysgrif o dan adran 12AA(3), ynglŷn â bodloni gofynion cyfarwyddyd o dan adran 12A(2)(a) a (b), gan ddatgan bod y gofynion wedi’u bodloni.

 

 

Llofnod y Canolwr

Dyddiad y Cyfarwyddyd


                    ATODLEN 7       Rheoliad 12

Gwybodaeth i gael ei rhoi mewn hysbysiad o dan adran 21(1) o Ddeddf 1975

1. Enw a chyfeiriad yr ymgymerwyr sy'n cyflwyno'r hysbysiad.

2. Enw a safle'r gronfa ddŵr.

3. Cyfeirnod grid cenedlaethol canol y gronfa ddŵr yn fras.

4. Pa un a  yw'r ymgymerwyr yn bwriadu—

(a)     adeiladu cyforgronfa ddŵr fawr newydd; neu

(b)     dechrau ail-ddefnyddio cyforgronfa ddŵr fawr ar ôl rhoi'r gorau i'r defnydd hwnnw.

5. Y dyddiad y bwriedir dechrau adeiladu neu'r dyddiad y bwriedir dechrau ail-ddefnyddio'r gronfa ddŵr, yn ôl y digwydd.

6. Enw a chyfeiriad y peiriannydd adeiladu neu, yn achos ail-ddefnyddio, enw a chyfeiriad y peiriannydd a benodir at ddibenion adran 9 o Ddeddf 1975.

7. Yr wybodaeth ganlynol ynglŷn â'r gronfa ddŵr fel ag y bydd pan fydd wedi ei hadeiladu, neu wedi dechrau cael ei hail-ddefnyddio fel y cynigir—

(a)     categori (h.y. cronfa sy'n cronni neu gronfa nad yw'n cronni);

(b)     y dyddiad(au) neu ddyddiad(au) cwblhau'r argae/argaeau, waliau neu arglawdd/argloddiau'r gronfa ddŵr;

(c)     adeiladwaith yr argae/argaeau, waliau'r gronfa ddŵr neu arglawdd/argloddiau (h.y. boed wedi ei adeiladu o bridd, cerrig, disgyrchiant, bwtres neu ddull arall);

(d)     uchder eithaf yr argae/argaeau, waliau neu arglawdd/argloddiau'r gronfa ddŵr (mewn metrau), wedi ei fesur o lefel naturiol isaf y tir amgylchynol cyfagos, i frig yr argae/argaeau, waliau neu arglawdd/argloddiau'r gronfa ddŵr, ac eithrio uchder y wal donnau;

(e)     uchder yr argae/argaeau, waliau neu arglawdd/argloddiau'r gronfa ddŵr (mewn metrau) wedi ei fesur o lefel naturiol isaf y tir amgylchynol cyfagos i lefel uchaf y dŵr;

(f)      lefel brig ar argae, waliau neu arglawdd y gronfa ddŵr gan gyfeirio at Ddatwm Ordnans:

(g)     lefel uchaf dŵr y gronfa ddŵr gan gyfeirio at Ddatwm Ordnans;

(h)     capasiti (mewn metrau ciwbig), wedi ei fesur o lefel naturiol isaf y tir amgylchynol cyfagos i lefel uchaf y dŵr;

(i)      arwynebedd dŵr ar lefel uchaf y dŵr (mewn metrau sgwâr neu cilometrau sgwâr).

 



([1])           1975 (p. 23). Mewnosodwyd adrannau A1, 2(2B) i 2(2E) a 21B mewn perthynas â Lloegr a Chymru gan adran 33 o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 (p.29) a pharagraffau 1, 2, 4 a 33 o Atodlen 4 i'r Ddeddf honno. Diwygiwyd adrannau 5, 11, 20 a 21 mewn perthynas â Lloegr a Chymru gan baragraff 33 o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 (p.29) a pharagraffau 5, 16 i 18, 23, 26, 28, 31 a 38 o Atodlen 4 i'r Ddeddf honno.  Diwygiwyd adrannau  2, 3, 20 a 21 gan adran 74 a 78 o Ddeddf Dŵr 2003 (p.37). Diwygiwyd adran 2, 2A i 2D ac adran 21B eto gan erthygl 4(1) o Orchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Swyddogaethau) 2013 (O.S. 2013/755) (Cy. 90) a pharagraffau 117, 119, 120 a 122 o Atodlen 2 i'r Gorchymyn hwnnw.

([2])           1930 (p.51).  Diddymwyd y Ddeddf hon gydag arbedion o Ddeddf Cronfeydd Dŵr 1975, adrannau 23 a 28.

([3])           Diwygiwyd adran 4 mewn perthynas â Lloegr a Chymru gan adran 33 o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 (p.29) a pharagraff 9 o Atodlen 4 i'r Ddeddf honno.

.

([4])           Addaswyd adran 7 mewn perthynas â Lloegr a Chymru gan adran 33 o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 (p.29) a pharagraffau 8 ac 11 o Atodlen 4 i'r Ddeddf honno.

([5])           Addaswyd adran 14 mewn perthynas â Lloegr a Chymru gan adran 33 o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 (p.29), a pharagraff 27 o Atodlen 4 i'r Ddeddf honno.

([6])           Cyfeiriad prif swyddfa tîm gorfodi diogelwch cronfeydd dŵr CANC yw  Tîm Diogelwch Dŵr, Adnoddau Naturiol Cymru, Tŷ Cambria, 29 Heol Casnewydd, Caerdydd CF24 0TP.

([7])           Addaswyd adran 8 mewn perthynas â Lloegr a Chymru gan adran 33 o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 (p.29), a pharagraffau 3 ac 11 o Atodlen 4 i'r Ddeddf honno ac adran 75 o Ddeddf Dŵr 2003 (2003 p.37).

([8])           Diwygiwyd adran 10 mewn perthynas â Lloegr a Chymru gan adran 33 o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 (p.29), a pharagraffau 11 ac 12 o Atodlen 4 i'r ddeddf honno.

([9])           Mewnosodwyd adran 12AA mewn perthynas â Lloegr a Chymru gan adran 33 o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 (p. 29), a pharagraff 21 o Atodlen 4 i'r Ddeddf honno.

 

([10])         Diwygiwyd adran 15 mewn perthynas â Lloegr a Chymru gan adran 33 o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 (p.29), a pharagraff 26 o Atodlen 4 i'r Ddeddf honno ac adran 75 o Ddeddf Dŵr 2003 (p.37). 

([11])         Diwygiwyd adran 19 mewn perthynas â Lloegr a Chymru gan adran 33 o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 (p.29) a pharagraff 14 a 22 o Atodlen 4 i'r Ddeddf honno.

([12])         Diwygiwyd adran 12  mewn perthynas â Lloegr a Chymru gan adran 33 o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 (p.29) a pharagraff 17 o Atodlen 4 i'r Ddeddf honno.

([13])         O.S. 1985/177.

([14])         O.S. 1985/548.

([15])         O.S. 1986/468.